Dyddiad yr Adroddiad

12/14/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Nosocomiaidd

Cyfeirnod Achos

202104785

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Ms L fod y Bwrdd Iechyd wedi methu cymryd camau digonol i amddiffyn ei gŵr, claf sydd mewn mwy o berygl o salwch difrifol yn sgil COVID-19, rhag dal y clefyd. Cwynodd Ms L hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ymchwilio’n llawn ac yn drylwyr i’w chŵyn ac nad oedd wedi cydnabod ei bod yn debygol bod ei gŵr wedi dal COVID-19 yn yr ysbyty. Cwynodd hefyd, pan ofynnodd am gopïau o gofnodion ei gŵr a chopïau o’r canllawiau y cyfeiriwyd atynt yn ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn, y bu oedi cyn darparu’r cofnodion; bod y cofnodion a ddarparwyd yn anghyflawn ac nad oedd y canllawiau y gofynnwyd amdanynt wedi’u cynnwys; a’i bod yn ymddangos bod copi o’r cofnodion wedi’i anfon i’r cyfeiriad anghywir.
Fe wnaethom gysylltu â’r Bwrdd Iechyd a gytunodd, o fewn 6 mis, i adolygu achos Ms L yn unol â’r broses y cytunwyd arni’n genedlaethol ar gyfer ymchwilio i heintiau nosocomiaidd COVID-19 (haint a gaiff ei ddal drwy ddarparu gofal iechyd). Gwelsom ei bod yn ymddangos bod tystiolaeth o gamweinyddu yn y modd y deliodd y Bwrdd Iechyd â chais Ms L am gofnodion ei gŵr. Er mwyn setlo’r agwedd hon ar y gŵyn, cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn 1 mis, i’r canlynol:
• Ymddiheuro i Ms L am y methiannau hyn.
• Talu iawndal ariannol o £250 iddi i adlewyrchu’r anhwylustod a’r pryder a achoswyd iddi oherwydd iddi gael rheswm i gredu bod y cofnodion wedi cael eu hanfon i’r cyfeiriad anghywir.
Yng ngoleuni’r camau gweithredu hyn y cytunwyd arnynt, daeth yr ymchwiliad i ben.