Dyddiad yr Adroddiad

04/08/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Waunfawr

Pwnc

Mynwentydd ac Amlosgfeydd

Cyfeirnod Achos

202500572

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Dr X fod Cyngor Cymuned Waunfawr wedi methu ag ymateb yn ffurfiol yn ysgrifenedig i’r gŵyn a gyflwynwyd ynglŷn â phlot y teulu.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi ymateb ar lafar, nid oedd wedi darparu ymateb ysgrifenedig i’r gŵyn.  Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Dr X.  Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor, o fewn 4 wythnos, i ymddiheuro i Dr X am beidio ag ymateb yn ffurfiol ac i egluro beth ddigwyddodd. Cytunodd hefyd i ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.