Fe wnaethom ddechrau ymchwiliad i gŵyn Mr B yn erbyn Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Feddygfa”) i weld a oedd y Feddygfa wedi:
• Oedi wrth brosesu gwybodaeth a dderbyniodd gan fab Mr B (Mr C) ynglŷn â Chytundeb Gofal a Rennir (“SCA”) a wnaeth oedi ei atgyfeiriad i’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol.
• Gallu dangos ei fod wedi ystyried cais Mr B i ad-dalu costau meddyginiaeth a ariannwyd yn breifat yn ystod cyfnod yr oedi.
Mewn ymateb i’r ymchwiliad, derbyniodd y Feddygfa y methiannau wrth ymdrin â’r wybodaeth a ddarparwyd gan Mr C ynglŷn â’r SCA. Fe wnaeth gydnabod bod hyn wedi achosi oedi o ran atgyfeirio Mr C at y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol ac wedi arwain at orfod talu am feddyginiaeth breifat yn hirach nag y byddai wedi’i wneud, pe bai’r wybodaeth wedi’i phrosesu’n gynt. Cytunodd y Feddygfa ar gynnig i fynd i’r afael â phryderon Mr B. Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y camau y cytunodd i’w cymryd yn gymesur er mwyn cyrraedd setliad gwirfoddol o gŵyn Mr B ac y byddai’n cyflawni canlyniad priodol. Ar y sail hon, caewyd yr ymchwiliad.
Cytunodd y Feddygfa i:
• Ddarparu ymddiheuriad ysgrifenedig am y methiannau gweinyddol a nodwyd wrth brosesu gwaith papur a achosodd oedi wrth atgyfeirio at y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol.
• Ailystyried ad-dalu costau’r feddyginiaeth a ariannwyd yn breifat yn ystod cyfnod yr oedi a wynebodd Mr C wrth gael ei atgyfeirio i’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol a chadarnhau canlyniad yr adolygiad gyda Mr B.