Dyddiad yr Adroddiad

30/04/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Materion yn ymwneud â phobl ddigartref gan gynnwys cyn-filwyr a throseddwyr wedi'u hadsefydlu

Cyfeirnod Achos

202407485

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A na chafodd ei hysbysu yn Chwefror 2024, wrth gael ei helpu gan Gyngor Caerdydd (“y Cyngor”) i gwblhau cais am fudd-dal tai, na allai wneud cais, a bod yn rhaid iddi’n hytrach wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Canfu’r Ombwdsmon fod Ms A wedi cael ei helpu i gwblhau cais am fudd-dal tai ar 21 Chwefror 2024. Hefyd, roedd wedi cysylltu â’r Cyngor ar 2 achlysur gwahanol yn dilyn hyn. Nid oedd y Cyngor wedi dweud wrthi na allai wneud cais am fudd-dal nes byddai ei chais wedi cael ei adolygu ar 13 Mawrth 2024. Penderfynodd yr Ombwdsmon fod Ms A wedi dioddef anghyfiawnder am ei bod wedi colli’r cyfle i wneud cais yn gynharach am Gredyd Cynhwysol. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gynnig ymddiheuriad ac iawndal ariannol o £150 i Ms A, o fewn 2 wythnos am y methiant i’w hysbysu na allai wneud cais am fudd-dal tai, ac a oedd wedi arwain at oedi cyn iddi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.