Cwynodd Mrs X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Mai 2025.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb terfynol i’r gŵyn ac felly dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi’r ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos, a fydd yn cynnwys ymddiheuriad ac esboniad pam na ymatebwyd i’r gŵyn yn wreiddiol, a chynnig taliad iawndal ariannol o £100 i gydnabod yr oedi ac am yr amser a’r drafferth.