Cwynodd Ms A am oedi gan y Bwrdd Iechyd cyn rhoi llawdriniaeth ar y glun i’w thad, Mr B. Dywedwyd wrth Mr B fod ei ofal wedi cael ei drosglwyddo i fwrdd iechyd cyfagos. Fodd bynnag, gwelwyd ar ôl gwneud ymholiadau nad oedd Mr B ar y rhestr aros am lawdriniaeth yn y naill fwrdd iechyd na’r llall. Yn yr ymchwiliad, ystyriwyd a oedd yr oedi cyn rhoi llawdriniaeth ar y glun i Mr B yn ganlyniad i resymau gweinyddol, yn hytrach na rhai clinigol.
Canfyddiad yr Ombwdsmon oedd bod enw Mr B wedi cael ei dynnu oddi ar y rhestr aros am lawdriniaeth orthopedig, heb iddo gael gwybod am hynny. Nid yw’n glir o gofnodion y Bwrdd Iechyd beth yw’r rheswm am hyn. Roedd yn bryder i’r Ombwdsmon nad oedd Mr B wedi cael ei hysbysu bod ei enw wedi ei dynnu oddi ar y rhestr (yn unol â gofynion canllawiau cenedlaethol), a bod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag unioni’r sefyllfa am ymhell dros flwyddyn er bod cwynion wedi eu gwneud iddo. Roedd yr Ombwdsmon wedi ei argyhoeddi bod hyn yn gyfystyr â chamweinyddu a oedd wedi arwain at arhosiad hirach o lawer am lawdriniaeth i Mr B. Roedd yr Ombwdsmon wedi cadarnhau’r gŵyn.
Gwnaeth yr Ombwdsmon nifer o argymhellion a dderbyniwyd gan y Bwrdd Iechyd.
O fewn 1 mis:
a) Trefnu i’r Prif Weithredwr wneud ymddiheuriad ysgrifenedig i Ms A a Mr B am y gwall gweinyddol a arweiniodd at oedi llawdriniaeth Mr B, ac am yr ymateb gwael a hwyr i’w cwyn.
b) Darparu iawndal o £750 am yr ymateb gwael i’r gŵyn, a’r straen ychwanegol a brofodd Mr B o orfod mynd ar ôl y mater gyda’r Bwrdd Iechyd.
c) Darparu iawndal o £1,500 am y poen a dioddef ychwanegol a brofodd Mr B yn ystod y 18 mis pan nad oedd ar y rhestr aros o ganlyniad i wall gweinyddol.
O fewn 4 mis:
ch) Darparu tystiolaeth i’m swyddfa ei fod wedi archwilio ei restrau aros am lawdriniaeth a’i restrau o gleifion a drosglwyddwyd er mwyn ei sicrhau ei hun nad oes cleifion llawdriniaeth eraill sydd wedi eu hanghofio yn yr un modd neu sydd â’u henwau wedi eu tynnu oddi ar ei restrau ar gam.
d) Rhannu’r adroddiad hwn â’i Fwrdd a ddylai enwebu Pwyllgor i oruchwylio a monitro cydymffurfiaeth y Bwrdd Iechyd ag argymhelliad ch).