Dyddiad yr Adroddiad

20/11/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Materion rhestr glaf

Cyfeirnod Achos

202501669

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am ymateb y Bwrdd Iechyd i 3 atgyfeiriad gan Feddyg Teulu am boen cefn, clun ac ochr ers 2019 a’r amser aros i gael ei weld gan y Tîm Rheoli Poen. Cwynodd Mr A ymhellach am y ffordd y deliodd y Bwrdd Iechyd â’i gŵyn.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod Mr A bellach wedi cael ei weld yn y Clinig Rheoli Poen, mai ar gyfer ei gefn yn unig yr oedd y pigiad a ddarparwyd. Nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymchwilio’n ddigonol na mynd i’r afael â’r holl faterion yr oedd Mr A wedi cael ei atgyfeirio amdanynt. Roedd Mr A wedi cael ei ryddhau o’r gwasanaeth a’i gynghori i weld ei feddyg teulu i gael atgyfeiriad arall, a fyddai’n anochel yn arwain at amser aros pellach. Canfu’r Ombwdsmon, yn dilyn gohebiaeth helaeth â Mr A, fod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i rai o bryderon Mr A. Fodd bynnag, dim ond y ddau atgyfeiriad diweddaraf a wnaed gan ei feddyg teulu yr oedd wedi mynd i’r afael â nhw, ac nid oeddent yn rhoi darlun cywir o’r sefyllfa na’i brofiad cyffredinol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo cwyn Mr A heb ymchwiliad. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ailystyried o fewn 6 wythnos a oedd angen atgyfeiriad newydd gan feddyg teulu Mr A ac i roi ymateb pellach i’r gŵyn i Mr A.