Bu i Mr A gwyno ei fod yn anfodlon ag oedi sydd wedi peri iddo aros am dair blynedd i gael gofal a thriniaeth gan Wasanaeth Rheoli Pwysau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Bwrdd Iechyd”). Roedd Mr A hefyd yn anfodlon ag ymateb y Bwrdd Iechyd i’w gŵyn. Dywedodd nad oedd yr ymateb yn mynd i’r afael â’r holl faterion a godwyd ganddo.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi egluro wrth Mr A ei fod o’r farn bod y pryderon a oedd yn weddill y tu hwnt i derfyn amser y drefn gwyno. Penderfynodd yr Ombwdsmon hefyd fod gan y Bwrdd Iechyd wybodaeth am y Gwasanaeth Rheoli Pwysau a allai gynorthwyo Mr A i ddeall pam y bu’n rhaid iddo aros i gael gofal a thriniaeth. Penderfynodd ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd gytuno i fynd ati cyn pen mis i ymddiheuro i Mr A am na chafodd wybod bod agweddau ar ei g?yn y tu hwnt i’r terfyn amser, i ddarparu i Mr A wybodaeth am gapasiti’r Gwasanaeth Rheoli Pwysau, ac i ddarparu i Mr A ddiweddariad am y rhestr aros gyfredol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud y pethau hyn.