Dyddiad yr Adroddiad

06/02/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Materion rhestr glaf

Cyfeirnod Achos

202208013

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr S fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi methu codi atgyfeiriad ar gyfer ei dad. Dywedodd Mr S mai dim ond pan gysylltodd â’r Bwrdd Iechyd am ddiweddariad y daeth hyn i’r amlwg, ac ni roddwyd esboniad ynghylch pam y cafodd ei fethu.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gysylltiad Mr S ond ei fod wedi methu dilyn y broses gwynion wrth wneud hynny. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac anghyfleustra ychwanegol i Mr S a’i dad gan ei fod wedi colli cyfle i ymchwilio a darparu ymateb ystyrlon.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Gofynnodd am gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymchwilio i’r gŵyn a darparu ymateb, gan gynnwys yr amseroedd cyffredinol ar gyfer rhestrau aros, o fewn dau fis.