Dyddiad yr Adroddiad

01/05/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Materion rhestr glaf

Cyfeirnod Achos

202409193

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Bu i Ms A gwyno bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi canslo ei llawdriniaeth thyroidectomi ar ddiwrnod y driniaeth oherwydd ei bod yn smygu. Cafodd Ms A ei thynnu oddi ar y rhestr aros a’i hatgyfeirio at wasanaeth rhoi’r gorau i smygu. Dywedodd Ms A nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi gwybod iddi cyn hynny fod angen iddi roi’r gorau i smygu.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi dilyn ei bolisi o ran rhoi’r gorau i smygu. Nid oedd yr wybodaeth a ddarparwyd ganddo yn ysgrifenedig yn glir, ac nid oedd wedi dweud wrth Ms A ei bod yn ofynnol iddi roi’r gorau i smygu er mwyn bwrw ymlaen â’r driniaeth. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd fynd ati cyn pen mis i ymddiheuro i Ms A, i adolygu’r wybodaeth ysgrifenedig a ddarperir i gleifion cyn iddynt gael llawdriniaeth i sicrhau ei bod yn glir ac yn cyd-fynd â pholisi’r Bwrdd Iechyd, ac i gadarnhau apwyntiad nesaf Ms A i drafod ei llwybr gofal a thriniaeth. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud y pethau hyn.