Cwynodd Mrs C am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn benodol, fe wnaeth yr ymchwiliad ystyried a oedd yn glinigol briodol nad oedd obstetrydd ymgynghorol a gynaecolegydd wedi rhoi diagnosis o cystocele i Mrs C (prolaps y bledren – lle mae’r bledren yn cwympo ac yn gwthio ar wal y wain) a rectocele (pan fo’r feinwe rhwng y rectwm a’r wain yn gwanhau neu’n rhwygo, gan achosi i’r rectwm wthio i mewn i wal y wain) yn ystod apwyntiadau ar 16 Mai, 26 Mehefin a 25 Medi 2023.
Canfu’r ymchwiliad nad oedd y ffaith nad oedd Mrs C wedi cael diagnosis o cystocele neu rectocele yn ystod yr apwyntiadau ar 16 Mai, 25 Mehefin a 25 Medi 2023 yn awgrymu bod y gofal a gafodd yn is na’r safonau disgwyliedig. Ni gadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn hon.