Cwynodd Mrs A nad oedd wedi cael ymateb i gŵyn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd”), er ei bod wedi cwyno 7 mis yn ôl.
Wrth asesu, canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Mrs A.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn 4 wythnos, i ymateb i gŵyn Mrs A, gan gynnwys ymddiheuro a rhoi’r rhesymau dros yr oedi.