Roedd cwyn Mrs A yn canolbwyntio ar a ddylai fod wedi cael ei rhestru ar gyfer llawdriniaeth i osod pen-glin newydd ar ôl ei hymgynghoriad ar 2 Ionawr 2020, ac a oedd y penderfyniad i’w rhyddhau o’r clinig orthopedig ym mis Rhagfyr 2020 yn briodol.
Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon, o ystyried Mynegai Mas y Corff uchel Mrs A, bod peidio â’i rhestru ar gyfer llawdriniaeth yn rhesymol, gan fod effeithiau BMI uchel wedi cael eu hegluro i Mrs A. Roedd yr Ombwdsmon yn falch o nodi bod y Bwrdd Iechyd bellach yn trefnu llawdriniaeth ar gyfer y claf ynghyd â darparu cymorth i’r claf golli pwysau.
Roedd hi hefyd yn fodlon bod y penderfyniad i ryddhau Mrs A o’r clinig orthopedig yn briodol o ystyried y pandemig COVID-19 a bod Mrs A wedi cael gwybod am hyn yn ysgrifenedig a bod ei meddyg teulu wedi cael copi hefyd. Dywedodd y llythyr hefyd y gallai gysylltu â’i meddyg teulu i gael ei atgyfeirio eto os oedd ei chyflwr yn gwaethygu.
Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mrs A.