Cwynodd Ms D am yr amseroedd aros ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am lawdriniaeth i osod pen-glin newydd i’w merch, Mrs E, a fu, yn drist iawn, farw ers hynny. Dywedodd Ms D ei bod wedi anfon llythyr at y Bwrdd Iechyd, ond mai dim ond trwy ei Haelod Senedd yr oedd wedi derbyn ymateb.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod Ms D wedi ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd ym mis Rhagfyr 2024, nad oedd yn glir ei bod hi eisiau gwneud cwyn. Fodd bynnag, byddai wedi bod yn briodol i’r Bwrdd Iechyd gysylltu â hi’n uniongyrchol i egluro. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd, a’i gael, y byddai’n ysgrifennu at Ms D o fewn pythefnos i ymddiheuro am beidio â chydnabod ei gohebiaeth neu geisio eglurhad a oedd hi’n dymuno cwyno.