Dyddiad yr Adroddiad

13/02/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Materion cynllunio eraill

Cyfeirnod Achos

202405719

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd Cyngor Sir Ceredigion wedi ymateb yn llawn i’w gŵyn ffurfiol mewn perthynas â phenderfyniad ynghylch cais cynllunio.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi ymateb i gŵyn gychwynnol Mr A, ond nad oedd wedi cydnabod nac ymateb i lythyr dilynol gan Mr A ym mis Rhagfyr 2023. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymateb i’r llythyr a anfonodd Mr A ym mis Rhagfyr 2023, ac i ymddiheuro i Mr A am beidio â chydnabod nac ymateb. Cytunodd y Cyngor i gwblhau’r camau hyn o fewn 4 wythnos.