Dyddiad yr Adroddiad

21/02/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Materion cynllunio eraill

Cyfeirnod Achos

202405569

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A bod y Cyngor wedi methu â gorfodi amodau cynllunio. Roedd ardaloedd cyhoeddus yn dal heb eu mabwysiadu ac nid oedd Cytundeb Adran 106, a oedd yn nodi gwaith cyhoeddus, wedi cael ei orfodi. Roedd Mr A yn anfodlon â’r ffordd roedd y Cyngor yn delio â chwynion a dywedodd fod yr wybodaeth yn yr ymateb i’r gŵyn yn anghywir.

Dywedodd yr Ombwdsmon fod gorfodi amodau cynllunio yn fater yn ôl disgresiwn y Cyngor. Roedd trafodaethau a/neu gyfarfodydd parhaus wedi bod rhwng y Cyngor a’r Datblygwr mewn perthynas â’r pryderon a godwyd. Er bod datblygiadau yn hyn o beth wedi bod yn araf, roedd pethau’n mynd rhagddynt. Roedd y Cyngor wedi ymateb i gŵyn Mr A yng Ngham 1 a 2 ei broses cwynion. Dywedodd y Cyngor fod y Datblygwr wedi penodi cwmni rheoli i ddelio ag ardaloedd heb eu mabwysiadu, a oedd yn anghywir.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi ymddiheuriad i Mr A, o fewn 4 wythnos, am y camwybodaeth am y cwmni rheoli yn yr ohebiaeth, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig am y sefyllfa a hefyd i roi, o fewn 6 wythnos, ddiweddariad ysgrifenedig i Mr A am ei gŵyn, gan nodi’r sefyllfa bresennol ac unrhyw gynnydd a wnaed.