Cwynodd Ms K am benderfyniad y Cyngor i gymeradwyo cais cynllunio cymydog, a’r ffordd y deliodd â’r sefyllfa. Yn benodol, a oedd camweinyddu yng nghyswllt:
1. Sut y cyfathrebodd y Cyngor â hi ynghylch y cais;
2. Rheolaeth ac ystyriaeth y Cyngor o’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd mewn perthynas â’r cais;
3. Sut yr ystyriodd y Cyngor y polisïau cynllunio perthnasol, dogfennau canllawiau atodol ac ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill;
4. Sut yr ystyriodd y Cyngor effaith y datblygiad ar ei hamwynder, gan gynnwys colli golau.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod camau gweithredu’r Cyngor yn briodol mewn perthynas â’i ystyriaeth o wrthwynebiadau, canllawiau cenedlaethol / lleol ac effaith y datblygiad ar amwynder Ms K. O ganlyniad, ni chafodd cwynion 2-4 eu cadarnhau.
O ran cwyn 1, canfu’r Ombwdsmon nad oedd dim tystiolaeth i awgrymu bod cyfathrebu’r Cyngor â Ms K wedi ei rhoi dan anfantais sylweddol mewn unrhyw ffordd. O ganlyniad, ni chadarnhawyd y gŵyn hon.