Dyddiad yr Adroddiad

06/30/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ddinbych

Pwnc

Materion cynllunio arall

Cyfeirnod Achos

202106611

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Ymchwiliasom i gwyn gan Mr a Mrs S ynghylch a oedd y Cyngor wedi methu â dilyn y gweithdrefnau priodol neu wedi methu â rhoi sylw i’r ystyriaethau cynllunio perthnasol wrth ystyried effaith datblygiad eu cymdogion ar eu heiddo.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi rhoi ystyriaeth ddyledus i bolisïau a gweithdrefnau perthnasol wrth ystyried cais cynllunio cymydog Mr a Mrs S. Fel y cyfryw, roedd yr Ombwdsmon yn fodlon nad oedd unrhyw ddiffygion gweinyddol yn y broses gynllunio. Ni chadarnhawyd y gwyn.