Dyddiad yr Adroddiad

11/02/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Maethu. Plant sy'n Derbyn Gofal. A Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig

Cyfeirnod Achos

202405283

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am ymchwiliad Cam 2 y Cyngor gan gynnwys y ffaith bod Swyddog Ymchwiliadau Annibynnol (“IIO”) Cam 2 wedi gwrthod ei chwynion heb i’r Cyngor fod wedi darparu tystiolaeth.
Roedd yr Ombwdsmon yn feirniadol o’r diffygion a nodwyd yn yr ymchwiliad Cam 2 ac ystyried y ffaith bod Mrs A wedi colli ymddiriedaeth a hyder yn sgil hyn. Fel rhan o ddatrysiad cynnar, cytunodd y Cyngor i gynnig ymddiheuriad ysgrifenedig cyflawn i Mrs A a’i gŵr am y diffygion yn ymchwiliad Cam 2 a’r modd y cyfathrebwyd â hi. Bydd hefyd yn rhannu’r pryderon am yr ymchwiliad Cam 2 â’r Swyddog Ymchwiliadau Annibynnol a’r Person Annibynnol (a lofnododd y canfyddiadau) fel rhan o’r broses dysgu ehangach.
Cytunodd y Cyngor hefyd i atgoffa ei staff o bwysigrwydd dogfennu penderfyniadau a’u cyflwyno’n ysgrifenedig gyda defnyddiwr y gwasanaeth.