Dyddiad yr Adroddiad

15/12/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Gwynedd

Pwnc

Maethu. Plant sy'n Derbyn Gofal. A Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig

Cyfeirnod Achos

202506894

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X fod Cyngor Gwynedd wedi methu â mynd i’r afael â’r holl bryderon a godwyd yn y gŵyn a gyflwynodd ynghylch Gweithiwr Cymdeithasol.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi ymateb i gŵyn Mrs X, nad oedd wedi mynd i’r afael â’r prif bryderon a godwyd. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X, a phenderfynwyd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gynnig, o fewn 6 wythnos, ymddiheuriad ac esboniad am beidio â mynd i’r afael â’r pryderon ac i ddarparu ymateb i’r gŵyn gyda rhagor o fanylion ac sy’n mynd i’r afael â’r gŵyn a godwyd gan Mrs X.