Dyddiad yr Adroddiad

10/12/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Maethu. Plant sy'n Derbyn Gofal. A Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig

Cyfeirnod Achos

202405704

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss B nad oedd Cyngor Caerdydd wedi ymateb i’w chŵyn yn ymwneud â lwfans Gwarcheidwadaeth Arbennig.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi rhoi ei ymateb Cam 1 yn unol â Phroses Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Miss B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor roi ei ymateb i’r gŵyn, a ddylai gynnwys esboniad ac ymddiheuriad am yr oedi, a’r oruchwyliaeth, o fewn 20 diwrnod calendr i benderfyniad yr Ombwdsmon, a chytunodd y Cyngor i wneud hynny.