Dyddiad yr Adroddiad

16/10/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202404828

Canlyniad

Adroddiad Diddordeb Cyhoeddus

Cwynodd Ms C am gyflwr yr eiddo roedd hi wedi’i rentu gan Gyngor Caerdydd (“y Cyngor”). Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i weld a oedd y Cyngor wedi methu ymateb i adroddiadau am ollyngiadau a lleithder a llwydni helaeth yn yr eiddo, a gweithredu arnynt yn briodol ac yn brydlon. Roedd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried, ar ôl nodi nad oedd yr eiddo’n addas i bobl fyw ynddo ym mis Gorffennaf 2024, a wnaeth y Cyngor waith atgyweirio’n brydlon a gwneud ymdrechion rhesymol i ddarparu llety arall i deulu Ms C.

Canfu’r ymchwiliad fethiannau gwasanaeth difrifol a gafodd effaith ddinistriol ar Ms C a’i theulu. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon bob cwyn.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor yn ymwybodol o bresenoldeb lleithder a llwydni ym mis Ebrill 2021 a, dros nifer o flynyddoedd, roedd Ms C wedi gwneud sawl adroddiad bod gollyngiad sylweddol o’r ystafell ymolchi wedi achosi difrod i nenfwd y gegin. Collodd y Cyngor nifer o gyfleoedd dros bron i 4 blynedd i ymchwilio a datrys achosion y gollyngiad a’r lleithder a’r llwydni yn briodol. Erbyn mis Mawrth 2024 roedd yr eiddo mewn cyflwr gwarthus. Roedd darnau helaeth o lwydni du ledled yr eiddo ac roedd llawer iawn o ddŵr yn gollwng drwy dwll mawr yn nenfwd y gegin ac yn rhaeadru dros ffitiadau trydanol byw ar arwynebau ac unedau.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi pellach y gellid ei osgoi wrth drefnu atgyweiriadau angenrheidiol ar ôl i’r Cyngor benderfynu’n ffurfiol nad oedd yr eiddo’n addas i bobl fyw ynddo ym mis Gorffennaf 2024. Ar ben hynny, roedd y broses ar gyfer ystyried a oedd angen llety arall ar deulu Ms C yn anhrefnus ac yn gamweithredol.

Canfu’r Ombwdsmon fod y lleithder a’r llwydni yn peri peryglon sylweddol i iechyd Ms C a’i theulu, rhai ohonynt yn dioddef o asthma. Roedd hefyd wedi difrodi neu ddinistrio llawer o eiddo’r teulu. Roedd yn ymddangos bod yr anobaith o fyw mewn amodau mor wael dros gyfnod hir wedi cyfrannu at ddatgymaliad araf yr uned deuluol, i’r graddau bod holl aelodau’r teulu wedi symud allan.

Treuliodd Ms C a dwy o’i merched fisoedd lawer yn byw mewn amodau anaddas gyda’i mam oedrannus. Roedd y methiant i ystyried angen y teulu am lety arall wedi achosi rhagor o straen a dryswch iddynt, ac yn golygu bod yn rhaid iddynt ddioddef sawl mis arall heb fynediad at gartref a oedd yn addas iddynt fyw ynddo.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn y dylai profiad Ms C fod yn ffordd bwerus o atgoffa landlordiaid cymdeithasol ledled Cymru o effeithiau dynol dinistriol posibl ymatebion hwyr ac annigonol i adroddiadau o ddadfeiliad neu leithder a llwydni. Canmolodd yr Ombwdsmon ymgysylltiad adeiladol y Cyngor â’i hymchwiliad a’r dull cadarnhaol a rhagweithiol yr oedd wedi’i ddefnyddio ers mis Mai 2024 i wella’r ffordd y mae’n ymateb i adroddiadau o ddadfeilio a lleithder a llwydni.

Gwnaeth yr Ombwdsmon nifer o argymhellion, ac fe wnaeth y Cyngor eu derbyn:

O fewn mis:

a) Trefnu i’w Brif Weithredwr ymddiheuro i Ms C ar ran y Cyngor am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn.

b) Talu iawndal o £3,000 i Ms C. Mae hyn yn cynnwys £2,000 am yr anghyfiawnder ymarferol ac ariannol difrifol, ac £1,000 am y trallod emosiynol difrifol a achoswyd i Ms C a’i theulu gan y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn.

c) Atgoffa pob gweithiwr yn yr Uned Atgyweirio Ymatebol (“RRU”) o bwysigrwydd trin pob tenant â pharch a thosturi, yn enwedig mewn perthynas â phryderon am waith atgyweirio cymhleth a lleithder a llwydni.

ch) Rhannu’r adroddiad terfynol ag aelodau o’i Bwyllgor Archwilio a Llywodraethu i’w alluogi i fonitro cynnydd a chanlyniad yr argymhellion isod.

O fewn 4 mis:

d) Adolygu ei broses Ffitrwydd i Fod yn Gartref (“FFHH”) i sicrhau bod yr angen am archwiliad FFHH yn cael ei ystyried yn brydlon pryd bynnag y daw’r Cyngor yn ymwybodol o ddadfeilio a allai beryglu statws FFHH eiddo. Dylai’r polisi hefyd sicrhau bod arolygiadau’n ystyried yn benodol y 29 categori a nodir yn y Rheoliadau FFHH, ac os bernir nad yw eiddo’n FFHH, bod archwiliad dilynol yn cael ei drefnu’n brydlon ar ôl gwneud y gwaith atgyweirio.

dd) Rhoi tystiolaeth i’m swyddfa o ganlyniad ei hadolygiad o’r broses adleoli a monitro, ynghyd â manylion cynnydd mewn perthynas ag unrhyw argymhellion a chynlluniau gweithredu cysylltiedig.

e) Rhoi diweddariad manwl i’m swyddfa ar y cynnydd mewn perthynas â’r cynlluniau gweithredu a gafodd eu creu yn ystod ei hadolygiad o adroddiad thematig yr Ombwdsmon sy’n ymwneud â dadfeilio a lleithder a llwydni.

f) Rhoi diweddariad manwl i’m swyddfa ar gynnydd mewn perthynas â phob un o’r cynlluniau gweithredu a gafodd eu creu yn ystod yr Adolygiad o’r RRU, gan gynnwys mewn perthynas â Chyfathrebu â Chwsmeriaid ac ymateb i gwynion.

O fewn 6 mis:

ff) Cynnal archwiliad o gofnodion yr RRU a’r Adran Gwynion (gan gynnwys atgyfeiriadau cynghorwyr) i ganfod a allai tenantiaid eraill fod wedi profi caledi neu anghyfiawnder sylweddol o ganlyniad i’r problemau systemig a nodwyd yn ymateb yr RRU i waith atgyweirio cymhleth ac achosion lleithder a llwydni. Pan fydd tenantiaid o’r fath yn cael eu nodi, dylai’r Cyngor ddarparu iawn priodol yn unol â’i bolisi cwynion a’r dull gweithredu rwyf wedi’i ddefnyddio yn yr achos hwn. Wrth wneud hynny, dylai ystyried gwneud taliadau i adlewyrchu unrhyw ddifrod i eiddo, trallod emosiynol ac anghyfleustra a achoswyd gan y methiannau.

g) Cynnal asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb o’i bolisïau atgyweirio a lleithder a llwydni, gan gynnwys diwygiadau a gyflwynwyd yn dilyn yr Adolygiad, i sicrhau bod ymatebion i adroddiadau a chwynion am ddadfeilio a lleithder a llwydni yn cael eu blaenoriaethu’n briodol pan fydd hyn yn effeithio ar ddeiliaid tai anabl neu agored i niwed.