Dyddiad yr Adroddiad

01/10/2025

Achos yn Erbyn

Caredig

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202503266

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am oedi wrth wneud atgyweiriadau yn ei chartref gan Caredig (“y Gymdeithas”).

Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu bod atgyweiriadau’n parhau i fod heb eu gwneud ac nad oedd Mrs A wedi derbyn ymateb ysgrifenedig ffurfiol i’w phryderon. Cadarnhaodd y Gymdeithas i’r Ombwdsmon y byddai’n cwblhau’r gwaith angenrheidiol, ac yn ymateb i bryderon Mrs A yn ysgrifenedig. Canfu’r Ombwdsmon fod hyn yn gynnig rhesymol.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas, o fewn 8 wythnos, i ymddiheuro’n ysgrifenedig i Mrs A am beidio ag ymateb i’w chwyn o’r blaen, i gadarnhau’r camau y bydd yn eu cymryd i gwblhau’r gwaith angenrheidiol, ac i sefydlu cwmpas ei phryderon, y canlyniadau y mae’n eu ceisio, ac i ddarparu ymateb yn unol â’i gweithdrefn gwyno ffurfiol.