Cwynodd Ms A fod Trivallis (“y Gymdeithas Tai”) wedi methu â datrys atgyweiriadau ystafell ymolchi. Roedd y rhain yn cynnwys toiled yn gollwng, lleithder a llwydni, y gawod ddim yn gweithio a thapiau ddim yn diffodd. Cadarnhaodd y Gymdeithas Tai gŵyn Ms A ym mis Gorffennaf 2024, ond roedd y materion yn parhau heb eu datrys.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Gymdeithas Tai wedi ymgymryd â rhywfaint o waith atgyweirio yn ddiweddar, fod oedi sylweddol wedi bod wrth ymgymryd â’r atgyweiriadau, ac nad oedd y problemau gyda lleithder a llwydni wedi’u datrys. Nid oedd y Gymdeithas Tai wedi rhoi diweddariadau rheolaidd na ystyrlon i Ms A mewn perthynas â chynllun i ailosod yr ystafell ymolchi. Roedd Ms A wedi’i hanhwyluso gan weithredoedd y sefydliad a’r oedi wrth wneud atgyweiriadau, a oedd wedi achosi rhwystredigaeth iddi. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Cytunodd y Gymdeithas Tai, o fewn pedair wythnos, i roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Ms A am yr oedi wrth gwblhau atgyweiriadau’r ystafell ymolchi, rhoi amserlen waith i Ms A i fynd i’r afael â’r problemau lleithder a llwydni, a chynnig taliad iawndal ariannol o £125 iddi i gydnabod yr anghyfleustra a achoswyd, a’r amser a’r drafferth a brofodd wrth ddilyn ei chŵyn. Cytunodd ymhellach, o fewn wyth wythnos, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Ms A am y gwaith i ailosod yr ystafell ymolchi a gynlluniwyd.