Dyddiad yr Adroddiad

28/01/2025

Achos yn Erbyn

Tai Cymunedol Bron Afon

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202407199

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss B nad oedd Tai Cymunedol Bron Afon Cyf wedi mynd i’r afael â’i phryderon ynghylch y lleithder yn ei heiddo a’r atgyweiriadau angenrheidiol.

 

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Gymdeithas Tai wedi mynd i’r afael â phryderon Miss B drwy’r weithdrefn gwyno er iddi wneud nifer o alwadau i’r Gymdeithas Tai. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

 

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Gymdeithas Tai i ymddiheuro i Miss B am beidio â mynd i’r afael â’i phryderon drwy’r weithdrefn gwyno, a darparu ymateb i gŵyn o fewn 5 wythnos. Cytunodd y Gymdeithas Tai hefyd i sicrhau bod yr holl atgyweiriadau wedi’u cwblhau erbyn y dyddiad y cytunwyd arno, a chynnig iawndal ariannol o £75 i gydnabod yr amser a’r drafferth a gymerodd Miss B i fynd at yr Ombwdsmon.