Dyddiad yr Adroddiad

18/12/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202404580

Cwynodd Mrs P nad oedd Cyngor Sir y Fflint (“y Cyngor”) fel ei landlord wedi cymryd camau priodol i fynd i’r afael â phroblem dŵr yn gorlifo o gwteri ar eiddo preifat cyfagos yn erbyn wal yr eiddo y mae’n ei rentu. Dywedodd fod hyn wedi achosi problem tamprwydd yn ei chegin.
Ar ôl adolygu cwyn Mrs P, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod y Cyngor, ar ôl ymgysylltu â’r cymydog, wedi tybio’n anghywir ym mis Ebrill 2024 bod y broblem wedi’i datrys. Roedd wedi gofyn o’r blaen i’r cymydog gadarnhau bod y broblem wedi ei datrys ond ni chymerodd unrhyw gamau pellach er nad oedd wedi derbyn unrhyw gyswllt pellach.
Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Mrs P ac egluro’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd i fynd i’r afael â’r broblem a rhoi sicrwydd y bydd yn parhau i fynd ar drywydd y mater nes y cadarnheir bod y broblem wedi’i datrys. Cytunodd hefyd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd i’r Ombwdsmon o fewn 3 mis i ddangos ei fod wedi gwneud ymdrechion boddhaol i ddatrys y broblem, ac os bydd y broblem yn dal heb ei datrys, ei fod wedi nodi camau rhesymol pellach y gall eu cymryd.