Cwynodd Mr A ynglŷn ag atgyweiriadau a wnaed yn ei gartref. Roedd yn ofynnol iddo symud allan o’r eiddo yn ystod y gwaith, a gymerodd fwy o amser na’r hyn a ragwelwyd. Ar ôl dychwelyd roedd nwy yn gollwng, a olygodd y bu’n rhaid iddo symud allan am yr ail waith. Roedd Mr A yn anfodlon ag ymateb y Cyngor i’r gŵyn a cheisiodd ad-daliad o’r costau y bu’n rhaid iddo eu hysgwyddo.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd Mr A wedi derbyn ymateb digonol i’w gŵyn ac ni chafodd ei argyhoeddi gan gamau gweithredu’r sefydliad. Nid oedd y Cyngor wedi ymchwilio’n briodol i’r pryderon ynglŷn â’r nwy yn gollwng. Er bod y Cyngor wedi cynnig ad-daliad rhent, y dreth gyngor a deunyddiau, nid oedd wedi ystyried a ddylid ad-dalu unrhyw gostau eraill, gan gynnwys biliau cyfleustodau. Penderfynodd yr Ombwdsmon i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Cytunodd y Cyngor y byddent, o fewn 4 wythnos, yn ystyried pryderon Mr A ynglŷn â’r nwy yn gollwng a’i gais y dylid ad-dalu’r biliau eraill a darparu ymateb pellach iddo i’r gŵyn.