Dyddiad yr Adroddiad

15/01/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202506667

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr C nad oedd Cyngor Caerdydd wedi atgyweirio to a oedd yn gollwng ers 2 flynedd, gan arwain at broblemau gyda lleithder a llwydni yn ei gartref. Dywedodd Mr C hefyd nad oedd y Cyngor wedi ymateb i gwynion am atgyweiriadau eraill na chwblhawyd.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y bu oedi afresymol wrth wneud atgyweiriadau i gartref Mr C. Er bod ymatebion y Cyngor i’r cwynion yn datgan y byddai’r gwaith yn cael ei wneud, nid oedd yr ymatebion hyn yn rhoi unrhyw esboniad dros yr oedi nac amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith. Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ymateb i holl gwynion Mr C. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor roi ymateb llawn i bob un o gwynion Mr C o fewn mis, a chwblhau unrhyw atgyweiriadau sy’n weddill o fewn 3 mis. Cytunodd y Cyngor i wneud hynny. Cytunodd y Cyngor hefyd i gynnig iawndal ariannol i Mr C.