Cwynodd Ms A ei bod yn anhapus â chamau gweithredu Cyngor Caerdydd (“y Cyngor”) mewn perthynas ag atgyweirio ei heiddo.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Cyngor yn gwneud gwaith i ddatrys pryderon Ms A, bod y materion wedi bod yn mynd rhagddynt ers peth amser. Ymhellach, roedd y Cyngor wedi cynnal profion asbestos yn ystafell fyw Ms A yn ddiweddar ond nid oedd y canlyniadau wedi dod i law. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Cyngor i hysbysu Ms A o ganlyniad y prawf asbestos, a’i gamau gweithredu nesaf arfaethedig yn seiliedig ar ganlyniad y prawf. Cytunodd y Cyngor hefyd i hysbysu Ms A am waith arall sydd wedi’i gynllunio ar gyfer ei heiddo, o fewn 1 mis.