Dyddiad yr Adroddiad

11/12/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202405044

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A ei bod wedi rhoi gwybod am atgyweiriadau i Gyngor Caerdydd, ond na chawsant eu cwblhau. Dywedodd fod rhywbeth wedi gollwng o eiddo’r Cyngor uwchben, a oedd wedi arwain at lwydni du neu damp, crac i’r nenfwd a phlastr yn disgyn yn ei heiddo. Cwynodd Ms A hefyd am y ffordd y gwnaeth y Cyngor ddelio â’i chŵyn ffurfiol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi cwblhau’r gwaith atgyweirio ac nad oedd wedi darparu ymateb boddhaol i’w chŵyn ffurfiol.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor ymddiheuro i Ms A am yr oedi cyn cwblhau’r gwaith atgyweirio a delio â’i chŵyn ffurfiol, ac i gwblhau’r atgyweiriadau, a chytunodd y Cyngor i wneud hynny. Cytunodd y Cyngor i gwblhau’r camau hyn o fewn 4 wythnos.