Cwynodd Mr A nad oedd Cyngor Caerdydd wedi datrys y problemau o ran tamprwydd a gwteri yn ei eiddo.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi bod yn ymwybodol o’r problemau gyda’r gwteri ers blynyddoedd lawer a bod y materion hyn yn brif achos y problemau tamprwydd yn yr eiddo. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi anhwylustod i Mr A ac wedi effeithio ar ei iechyd. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor wneud y canlynol o fewn pythefnos, a chytunodd y Cyngor i wneud hynny:
• Ymddiheuro i Mr A am yr oedi cyn datrys y problemau tamprwydd a gwteri yn ei eiddo.
• Trefnu apwyntiad blaenoriaeth gyda Mr A i wneud y gwaith angenrheidiol i drwsio’r materion sy’n ymwneud â gwteri.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd wneud y canlynol o fewn 1 mis hefyd, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny:
Cynnig iawndal o £500 i Mr A am yr anhwylustod a achoswyd.