Cwynodd Mr A nad oedd Cymdeithas Tai Hafod wedi cwblhau atgyweiriadau i’w eiddo yr oedd wedi bod yn aros dros flwyddyn iddynt gael eu gwneud, er gwaethaf datrysiad cynnar blaenorol a sicrhawyd gan yr Ombwdsmon.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y gwaith wedi’i gwblhau’n llawn, a bod y dyddiadau a roddwyd i Mr A ar gyfer gwneud y gwaith wedi’u gohirio. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Tai y byddai’n anfon ymddiheuriad ysgrifenedig at Mr A, o fewn 2 wythnos, ei hysbysu o’r dyddiadau a drefnwyd y byddai’r gwaith yn cael ei wneud a threfnu taliad iawndal o £100 i gydnabod yr amser a’r drafferth a gymerwyd o orfod dychwelyd at yr Ombwdsmon.