Dyddiad yr Adroddiad

15/04/2025

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202410159

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X nad oedd Cymdeithas Tai Hafod wedi datrys y broblem lleithder a llwydni yn ei heiddo am bedwar mis. O ganlyniad i hyn, roedd eiddo a gwaith addurno Miss X wedi’u difetha.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi cael cwyn gan Miss X ym mis Ionawr, fodd bynnag, roedd wedi delio â’i chŵyn yn anffurfiol ond nid oedd wedi ymateb i gŵyn Miss X . Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Miss X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i gynnig ymddiheuriad ac esboniad, o fewn 3 wythnos, am yr amser a gymerwyd i wneud y gwaith trwsio, cyhoeddi ymateb cwyn cam 2, trefnu dyddiad â Miss X i olchi’r llwydni, a chynnig ailaddurno ei chartref ar ôl trwsio’r to. Disgwylir i’r Gymdeithas gysylltu â Miss X cyn mynd i’w chartref, drwy lythyr o gadarnhad.