Dyddiad yr Adroddiad

30/01/2025

Achos yn Erbyn

Cartrefi Dinas Casnewydd

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202407682

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A fod Cartrefi Dinas Casnewydd (“y Gymdeithas Dai”) wedi methu â mynd i’r afael â phroblemau gan gynnwys fermin, lleithder a gwresogi yn ei chartref, a oedd wedi bod yn broblem ers mis Medi 2023. Ni fyddai ffenestri’n cloi ac nid oedd atgyweiriadau i bibellau, a wnaed yn dilyn llifogydd yn yr eiddo, wedi’u cwblhau’n gywir. Rhoddwyd gwybodaeth anghyson i Miss A ynghylch pwy oedd yn gyfrifol am reoli plâu.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Gymdeithas Dai wedi ymateb i gwynion Miss A, nad oedd wedi ymchwilio i’w holl bryderon nac wedi mynd i’r afael â hwy. Lle y cydnabuwyd diffygion, ni chafwyd ymddiheuriad ac ni chymerwyd y camau a nodwyd. Achosodd hyn oedi a rhwystredigaeth diangen i Miss A ac effeithiodd ar ei hiechyd. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Gymdeithas Dai i, o fewn mis, ymddiheuro’n ysgrifenedig i Miss A am ei methiant i ymchwilio’n ddigonol ac ymateb i’w holl bryderon, am y methiannau a nodwyd yn ei hymateb i’r gŵyn, ac am yr oedi wrth gyflawni’r camau gweithredu a nodwyd. Cytunodd y Gymdeithas Dai hefyd i roi ymateb pellach i’r gŵyn o fewn mis i Miss A, gan fynd i’r afael â’r holl faterion ynghyd ag amserlen yn nodi pryd y bydd unrhyw ymchwiliadau a/neu waith sy’n weddill yn cael eu cyflawni.