Cwynodd Miss A fod Cartrefi Dinas Casnewydd wedi methu gwneud gwaith atgyweirio a mynd i’r afael â phroblemau lleithder a llwydni, ar ôl iddi gysylltu â nhw am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2024. Cwynodd Miss A ymhellach ei bod wedi cael anawsterau wrth gysylltu â’r Gymdeithas Dai.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Gymdeithas Dai wedi gwneud rhai atgyweiriadau i’r ystafell ymolchi a nenfwd yr ystafell fyw, nid oedd y rhain wedi’u cwblhau. Roedd Miss A wedi bod heb drydan am 4 diwrnod. Roedd hi wedi cael anawsterau wrth gyfathrebu â’r Gymdeithas Tai. Cafodd Miss A wybodaeth anghyson ynghylch a oedd y gwaith wedi’i gwblhau, ai hi oedd yn gyfrifol am weddill y gwaith, ac nad oedd wedi cael ymateb i’w chŵyn. Roedd gweithredoedd y Gymdeithas Dai a’r methiant i gwblhau’r gwaith yn brydlon wedi achosi anhwylustod i Miss A. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss A, ac wedi effeithio ar ei hiechyd hi, ac ar iechyd ei merch. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Dai y byddent yn cyfarfod â Miss A o fewn 4 wythnos i archwilio’r eiddo, i nodi rhestr o faterion sydd heb eu datrys, ac i ddarparu amserlen ar gyfer y gwaith a oedd wedi’i gynllunio.
Cytunodd ymhellach i roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Miss A am yr oedi wrth wneud y gwaith atgyweirio ac ymateb i’w chŵyn, o fewn 4 wythnos hefyd.