Dyddiad yr Adroddiad

21/11/2025

Achos yn Erbyn

Caredig

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202504141

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am fethiant parhaus Caredig i fynd i’r afael ag atgyweiriadau i’w heiddo, gan gynnwys lleithder a llwydni, yn ogystal â’i fethiant i ddilyn ei weithdrefn gwyno.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd Caredig (“y Gymdeithas Tai”) wedi cofnodi a chydnabod y cwynion a godwyd gan Ms A yn ddigonol, a arweiniodd at oedi cyn ymchwilio i’w chŵyn ac ymateb iddi. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Tai y byddai o fewn pythefnos yn ysgrifennu at Ms A gyda chanlyniad ei hymchwiliad, yn ymddiheuro’n ysgrifenedig iddi i gydnabod yr oedi, ac yn gwneud taliad iawndal o £100 iddi am yr amser a’r drafferth a dreuliwyd yn cael ymateb i’w chŵyn.