. Cwynodd Ms X nad oedd y Feddygfa wedi ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd iddi ym mis Chwefror 2025.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Feddygfa wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Ms X ac nad oedd wedi rhoi ymateb. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Feddygfa i gyhoeddi ei hymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos, gan gynnwys ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi a chynnig iawndal ariannol o £100 i gydnabod yr oedi a’r diffyg diweddariadau.