Cwynodd Mr a Mrs A i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghylch y driniaeth a’r gofal a gafodd Mr A, a sut nad oeddent wedi cael ymateb i’w cŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon fod Mr A wedi cwyno i’r Bwrdd Iechyd 10 mis yn ôl, ac nad oedd wedi derbyn ymateb ffurfiol i’w gŵyn eto. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi nifer o gwestiynau heb eu hateb i Mr a Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Enillodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu’r ymateb llawn i’r gŵyn o fewn 6 wythnos, gan gynnwys ymddiheuriad ac esboniad pam y bu oedi.