Cwynodd Mrs H fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu ag ymateb i gŵyn a gyflwynodd ym mis Ionawr 2025.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Mrs H am 5 mis o’i ymchwiliad. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mrs H. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mrs H o fewn pythefnos i ymddiheuro am yr oedi a’r diffyg diweddariadau, i gynnig taliad iawndal o £100, ac i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn.