Cwynodd Mrs A i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe ynghylch y driniaeth a’r gofal a gafodd a sut nad oedd wedi cael ymateb i’w chŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon fod Mrs A wedi cwyno i’r Bwrdd Iechyd 7 mis yn ôl, ac nad oedd wedi derbyn ymateb ffurfiol i’w chŵyn eto. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs A a oedd â llawer o gwestiynau heb eu hateb. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Enillodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu’r ymateb cydymffurfiol llawn o fewn 4 wythnos, gan gynnwys ymddiheuriad ac esboniad pam y bu oedi.