Cwynodd Mrs A i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe ynghylch y driniaeth a’r gofal a gafodd ei mam ymadawedig, a sut nad oedd wedi cael ymateb i’w chŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon fod Mrs A wedi cwyno i’r Bwrdd Iechyd 8 mis yn ôl ac nad oedd wedi derbyn ymateb ffurfiol i’w chŵyn eto. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd i Mrs A a oedd wedi colli ei mam. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Enillodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu’r ymateb llawn i’r gŵyn o fewn 4 wythnos, gan gynnwys ymddiheuriad ac esboniad pam y bu oedi.