Cwynodd Miss X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a wnaeth iddo ym mis Mawrth 2025. Canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod cyn i’r Bwrdd Iechyd ymateb i Miss X. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss X a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro ac egluro’r rhesymau dros yr oedi, ac i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn i Miss X o fewn 4 wythnos.