Cwynodd Mrs A nad oedd yr ymateb i’r gŵyn gan Fwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi mynd i’r afael yn ddigonol â’i phryderon. Cysylltodd Mrs A â’r Bwrdd Iechyd ond nid oedd wedi derbyn ymateb pellach.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi cytuno i ddarparu ymateb pellach i’r gŵyn, nad oedd wedi gwneud hynny. Cafodd Mrs A ei hanhwyluso gan yr oedi, a achosodd rwystredigaeth iddi. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn 4 wythnos, i ddarparu ymateb pellach i’r gŵyn i Mrs A ynghyd ag ymddiheuriad ysgrifenedig am yr oedi.