Cwynodd Mrs A ar ran ei diweddar fam am y ffordd y deliodd y Bwrdd Iechyd â’i chwynion. Methodd y Bwrdd Iechyd â darparu ymateb i gŵyn a gyflwynodd 7 mis ynghynt.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu’r ymateb ffurfiol i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i, o fewn 4 wythnos, gynnig ymddiheuriad i Mrs A am yr oedi ac egluro pam y digwyddodd hyn, ynghyd â darparu ymateb ffurfiol i’r gŵyn.