Dyddiad yr Adroddiad

10/10/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202505451

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A am y ffordd y gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ymdrin â’r gŵyn a wnaeth iddo ym mis Rhagfyr 2024 ynghylch y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd iddi.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod cyn i’r Bwrdd Iechyd ymateb i gŵyn Miss A a achosodd rwystredigaeth iddi. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro am yr oedi cyn ymateb i’r gŵyn, ac i gyhoeddi’r ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.