Dyddiad yr Adroddiad

14/10/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202505232

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A, ar ran Mr B, i’r Bwrdd Iechyd ar 10 Mawrth 2025 ynghylch y gofal a’r driniaeth a gafodd Mr B gan y Bwrdd Iechyd. Ni ddarparwyd unrhyw ymateb i gŵyn Mrs A gan y Bwrdd Iechyd ar ôl 6 mis.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi’r Bwrdd Iechyd wrth ddarparu ymateb i gŵyn Mrs A yn groes i ddarpariaethau’r cynllun Gweithio i Wella sy’n llywodraethu cwynion y GIG.

Cynigiodd yr Ombwdsmon, a chytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn 6 wythnos, y byddai’r Bwrdd Iechyd yn darparu ymateb i gŵyn Mrs A, gan gynnwys rhesymau ac ymddiheuriadau am yr oedi.