Cwynodd Mr S fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu â chyhoeddi ymateb i’w gŵyn, a wnaeth iddo ym mis Medi 2024, ynghylch amseroedd aros gormodol am apwyntiad ar gyfer ei boen cronig yn ei ben-glin.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chyhoeddi ymateb i’r gŵyn ac wedi methu â rhoi unrhyw ddiweddariadau i Mr S. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr S a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn, ymddiheuro ac egluro’r rhesymau dros yr oedi a chynnig iawndal ariannol o £100 i gydnabod yr oedi.