Dyddiad yr Adroddiad

02/10/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202504325

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A i’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’w chŵyn, a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2025, er gwaethaf fod tua 8 mis wedi mynd heibio ers gwneud y gŵyn.
Gofynnodd yr Ombwdsmon – a chytunodd y Bwrdd Iechyd – y dylai’r Bwrdd Iechyd, er mwyn setlo’r gŵyn, ddarparu’r ymateb i gŵyn Ms A, gan gynnwys y rhesymau ac ymddiheuriad am yr oedi, o fewn 20 diwrnod gwaith.