Dyddiad yr Adroddiad

06/10/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202504133

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A am y broses o gael diagnosis awtistiaeth i’w merch ac am yr oedi cyn derbyn ymateb i’w chŵyn (a gyflwynwyd ym mis Medi 2024) gan y Bwrdd Iechyd.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i gŵyn Miss A mewn modd amserol.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn 20 diwrnod gwaith i’r llythyrau penderfyniad, i gyhoeddi’r ymateb i gŵyn Miss A a, chyn belled ag y bo modd, gynnwys rhesymau ac ymddiheuriad am yr oedi.