Cwynodd Mr A am yr oedi cyn derbyn ymateb gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (“WAST”) i’w gŵyn a gyflwynodd ym mis Chwefror 2025.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd WAST wedi ymateb i gŵyn Mr A mewn modd amserol. Penderfynwyd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb WAST i gyhoeddi ei ymateb i gŵyn Mr A o fewn wythnos a rhoi ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi cyn ymateb.